Luc 7:11-19 beibl.net 2015 (BNET)

11. Yn fuan wedyn, dyma Iesu'n mynd i dref o'r enw Nain. Roedd ei ddisgyblion a thyrfa fawr o bobl gydag e.

12. Pan oedd ar fin cyrraedd giât y dref roedd pobl mewn angladd ar y ffordd allan. Bachgen ifanc oedd wedi marw – unig fab rhyw wraig weddw. Roedd tyrfa fawr o bobl y dre yn yr angladd.

13. Pan welodd Iesu'r wraig weddw roedd yn teimlo drosti, ac meddai wrthi, “Paid crïo.”

14. Yna gwnaeth rywbeth cwbl annisgwyl – cyffwrdd yr arch! Dyma'r rhai oedd yn ei chario yn sefyll yn stond. “Fachgen ifanc,” meddai Iesu, “dw i'n dweud wrthot ti am godi!”

15. A dyma'r bachgen oedd wedi marw yn codi ar ei eistedd a dechrau siarad. A dyma Iesu'n ei roi yn ôl i'w fam.

16. Roedd pawb wedi eu syfrdanu'n llwyr, a dyma nhw'n dechrau moli Duw. “Mae proffwyd mawr wedi codi yn ein plith ni!” medden nhw. “Mae Duw wedi dod aton ni i helpu ei bobl.”

17. Aeth yr hanes yma am Iesu ar led fel tân gwyllt, drwy Jwdea gyfan ac ymhellach na hynny.

18. Roedd disgyblion Ioan Fedyddiwr wedi mynd i ddweud wrtho am bopeth roedd Iesu'n ei wneud.

19. Felly dyma Ioan yn anfon dau ohonyn nhw at yr Arglwydd Iesu i ofyn iddo, “Ai ti ydy'r Meseia sydd i ddod, neu ddylen ni ddisgwyl rhywun arall?”

Luc 7