Luc 3:1-2-7 beibl.net 2015 (BNET)

1-2. Flynyddoedd yn ddiweddarach, tra roedd yn byw yn yr anialwch, cafodd Ioan, mab Sachareias, neges gan Dduw. Erbyn hynny roedd Tiberiws Cesar wedi bod yn teyrnasu ers pymtheng mlynedd; Pontius Peilat oedd llywodraethwr Jwdea, Herod yn is-lywodraethwr ar Galilea, ei frawd Philip ar Itwrea a Trachonitis, a Lysanias ar Abilene; ac roedd Annas a Caiaffas yn archoffeiriaid.

3. Teithiodd Ioan drwy'r ardal o gwmpas Afon Iorddonen, yn cyhoeddi bod rhaid i bobl gael eu bedyddio, fel arwydd eu bod nhw'n troi cefn ar eu pechodau ac yn derbyn maddeuant gan Dduw.

4. Roedd yn union fel mae'n dweud yn llyfr y proffwyd Eseia: “Llais yn gweiddi'n uchel yn yr anialwch, ‘Paratowch y ffordd i'r Arglwydd ddod! Gwnewch y llwybrau'n syth iddo!

5. Bydd pob dyffryn yn cael ei lenwi, pob mynydd a bryn yn cael ei lefelu. Bydd y ffyrdd troellog yn cael eu gwneud yn syth, a'r lonydd anwastad yn cael eu gwneud yn llyfn.

6. Bydd y ddynoliaeth gyfan yn gweld Duw yn achub.’”

7. Roedd Ioan yn dweud yn blaen wrth y tyrfaoedd oedd yn mynd allan ato i gael eu bedyddio ganddo: “Dych chi fel nythaid o nadroedd! Pwy sydd wedi'ch rhybuddio chi i ddianc rhag y gosb sy'n mynd i ddod?

Luc 3