Luc 18:1-16 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dwedodd Iesu stori wrth ei ddisgyblion i ddangos y dylen nhw ddal ati i weddïo, a pheidio byth ag anobeithio:

2. “Roedd barnwr yn byw mewn rhyw dref,” meddai, “dyn oedd ddim yn parchu Duw na neb arall.

3. Ac yn yr un dref roedd gwraig weddw oedd yn mynd ato o hyd ac o hyd i ofyn iddo farnu rhywun oedd wedi gwneud niwed iddi.

4. “Chymerodd y barnwr ddim sylw ohoni i ddechrau. Ond yn y diwedd roedd wedi cael hen ddigon – ‘Dw i ddim yn ddyn duwiol a dw i ddim yn poeni beth mae pobl eraill yn ei feddwl ohono i.

5. Ond bydd y wraig yma wedi ngyrru i'n wallgof os na wna i beth mae hi eisiau!’”

6. Yna meddai'r Arglwydd, “Gwrandwch, mae gwers i'w dysgu yma.

7. Dych chi'n gwybod beth ddwedodd y barnwr drwg. Felly beth am Dduw? Dych chi ddim yn meddwl y bydd e'n amddiffyn y bobl mae wedi eu dewis iddo'i hun? Fydd e ddim yn oedi! Bydd yn ymateb ar unwaith i'r rhai sy'n galw arno ddydd a nos!

8. Dw i'n dweud wrthoch chi, bydd yn rhoi dedfryd gyfiawn iddyn nhw, a hynny ar frys! Ond, pan fydda i, Mab y Dyn, yn dod yn ôl, faint o bobl fydd yn dal i gredu bryd hynny?”

9. Dwedodd Iesu y stori yma wrth rai pobl oedd yn meddwl eu bod nhw eu hunain mor dduwiol, ac yn edrych i lawr eu trwynau ar bawb arall:

10. “Aeth dau ddyn i weddïo yn y deml. Pharisead oedd un ohonyn nhw, a'r llall yn ddyn oedd yn casglu trethi i Rufain.

11. Dyma'r Pharisead yn sefyll ar ei draed yn hyderus, a dyma oedd ei weddi: ‘O Dduw, dw i yn diolch i ti mod i ddim yr un fath â phobl eraill. Dw i ddim yn twyllo na gwneud dim byd drwg arall, a dw i ddim yn gwneud pethau anfoesol. Dw i ddim yr un fath â'r bradwr yma!

12. Dw i'n ymprydio ddwywaith yr wythnos ac yn rhoi un rhan o ddeg o bopeth sydd gen i i'r deml.’

13. “Ond roedd y casglwr trethi wedi mynd i sefyll mewn rhyw gornel ar ei ben ei hun. Doedd e ddim yn meiddio edrych i fyny hyd yn oed. Yn lle hynny roedd yn curo ei frest mewn cywilydd. Dyma oedd ei weddi e: ‘O Dduw, wnei di faddau i mi. Dw i'n bechadur ofnadwy.’

14. “Dw i'n dweud wrthoch chi mai'r casglwr trethi, dim y Pharisead, oedd yr un aeth adre a'i berthynas gyda Duw yn iawn. Bydd Duw yn torri crib pobl falch ac yn anrhydeddu'r rhai gostyngedig.”

15. Roedd pobl yn dod â'u babanod at Iesu er mwyn iddo eu cyffwrdd a'u bendithio. Ond pan welodd y disgyblion nhw, dyma nhw'n dweud y drefn wrthyn nhw.

16. Ond dyma Iesu'n eu galw nhw ato. “Gadewch i'r plant bach ddod ata i,” meddai, “Peidiwch eu rhwystro, am mai rhai fel nhw sy'n derbyn teyrnasiad Duw.

Luc 18