Luc 12:27-38 beibl.net 2015 (BNET)

27. “Meddyliwch sut mae blodau'n tyfu. Dydyn nhw ddim yn gweithio nac yn nyddu. Ac eto, doedd hyd yn oed y Brenin Solomon yn ei ddillad crand ddim yn edrych mor hardd ag un ohonyn nhw.

28. Os ydy Duw yn gofalu fel yna am flodau gwyllt (sy'n tyfu heddiw, ond yn cael eu llosgi fel tanwydd fory), mae'n siŵr o ofalu amdanoch chi! Ble mae'ch ffydd chi?

29. Felly peidiwch treulio'ch bywyd yn poeni am fwyd a diod!

30. Pobl sydd ddim yn credu sy'n poeni am bethau felly. Mae'ch Tad yn gwybod beth sydd ei angen arnoch chi.

31. Gwnewch yn siŵr mai'r flaenoriaeth i chi ydy ymostwng i deyrnasiad Duw, ac wedyn cewch y pethau eraill yma i gyd.

32. “Fy mhraidd bach i, peidiwch bod ofn. Mae Duw yn benderfynol o rannu ei deyrnas â chi.

33. Gwerthwch eich eiddo a rhoi'r arian i'r tlodion. Gofalwch fod gynnoch chi bwrs sy'n mynd i bara am byth, trysor sydd ddim yn colli ei werth. Dydy lleidr ddim yn gallu dwyn y trysor nefol, na gwyfyn yn gallu ei ddifetha.

34. Ble bynnag mae dy drysor di y bydd dy galon di.

35. “Byddwch yn barod bob amser; a cadwch eich lampau yn olau,

36. fel petaech yn disgwyl i'r meistr gyrraedd adre o wledd briodas. Pan fydd yn cyrraedd ac yn curo'r drws, byddwch yn gallu agor y drws yn syth.

37. Bydd y gweision hynny sy'n effro ac yn disgwyl am y meistr yn cael eu gwobrwyo – wir i chi, bydd y meistr yn mynd ati i weini arnyn nhw, a byddan nhw'n eistedd wrth y bwrdd i fwyta!

38. Falle y bydd hi'n oriau mân y bore pan fydd yn cyrraedd, ond bydd y gweision sy'n effro yn cael eu gwobrwyo.

Luc 12