Luc 10:8-17 beibl.net 2015 (BNET)

8. “Os byddwch yn cael croeso mewn rhyw dref, bwytwch beth bynnag sy'n cael ei roi o'ch blaen chi.

9. Ewch ati i iacháu y rhai sy'n glaf yno, a dweud wrthyn nhw, ‘Mae Duw ar fin dod i deyrnasu.’

10. Ond os ewch i mewn i ryw dref heb gael dim croeso yno, ewch allan i'w strydoedd a dweud,

11. ‘Dŷn ni'n sychu llwch eich tref chi i ffwrdd oddi ar ein traed ni, fel arwydd yn eich erbyn chi! Ond gallwch fod yn reit siŵr o hyn – bod Duw ar fin dod i deyrnasu!’

12. Wir i chi, bydd hi'n well ar Sodom ar ddydd y farn nag ar y dref honno!

13. “Gwae ti, Chorasin! Gwae ti, Bethsaida! Petai'r gwyrthiau wnes i ynoch chi wedi digwydd yn Tyrus a Sidon, byddai'r bobl yno wedi hen ddangos eu bod yn edifar, trwy eistedd ar lawr yn gwisgo sachliain a thaflu lludw ar eu pennau.

14. Bydd hi'n well ar Tyrus a Sidon ar ddydd y farn nag arnoch chi!

15. A beth amdanat ti, Capernaum? Wyt ti'n meddwl y byddi di'n cael dy anrhydeddu? Na, byddi di'n cael dy fwrw i lawr i'r dyfnder tywyll!

16. “Mae pwy bynnag sy'n gwrando ar eich neges chi yn fy nerbyn i, a phwy bynnag sy'n eich gwrthod chi yn fy ngwrthod i hefyd. Ac mae pwy bynnag sy'n fy ngwrthod i yn gwrthod Duw, yr un sydd wedi fy anfon i.”

17. Pan ddaeth y saith deg dau yn ôl, dyma nhw'n dweud yn frwd, “Arglwydd, mae hyd yn oed y cythreuliaid yn ufuddhau i ni wrth i ni dy enwi di.”

Luc 10