Lefiticus 4:2-19 beibl.net 2015 (BNET)

2. “Dywed wrth bobl Israel: Dyma sydd i ddigwydd pan mae rhywun yn pechu'n ddamweiniol (trwy wneud rhywbeth mae'r ARGLWYDD wedi dweud wrthoch chi am beidio'i wneud):

3. “Os ydy'r archoffeiriad wedi pechu mae'n effeithio ar bawb. Mae'n gwneud pawb yn euog. Felly rhaid iddo gyflwyno tarw ifanc sydd â dim byd o'i le arno yn offrwm puro i'w lanhau o'i bechod.

4. Rhaid iddo fynd a'r tarw o flaen yr ARGLWYDD at y fynedfa i'r Tabernacl. Wedyn gosod ei law ar ben yr anifail cyn ei ladd yno.

5. Yna bydd rhaid i'r archoffeiriad gymryd peth o waed y tarw i mewn i'r Tabernacl.

6. Bydd yn rhoi ei fys yn y gwaed ac yn taenellu peth ohono saith gwaith i gyfeiriad y llen o flaen y cysegr.

7. Wedyn bydd yn rhoi peth o'r gwaed ar gyrn allor yr arogldarth sydd yno o flaen yr ARGLWYDD. A bydd yn mynd â gweddill y gwaed a'i dywallt wrth droed yr allor i losgi offrymau sydd y tu allan i'r fynedfa i'r Tabernacl.

8. “Bydd yr archoffeiriad wedyn yn cymryd brasder yr anifail i gyd: y brasder sydd o gwmpas perfeddion yr anifail ac ar yr organau gwahanol,

9. y ddwy aren a'r brasder sydd arnyn nhw, a rhan isaf yr iau

10. (Mae hyn yn union yr un fath â beth sy'n cael ei wneud i fustach yr offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD). Rhaid i'r archoffeiriad losgi'r brasder yma i gyd ar yr allor i losgi offrymau.

13. “Pan mae pobl Israel yn pechu yn fy erbyn i heb sylweddoli eu bod wedi gwneud hynny, maen nhw i gyd yn euog.

14. Unwaith maen nhw'n sylweddoli beth maen nhw wedi ei wneud, maen nhw i ddod â tarw ifanc yn offrwm i'w glanhau o'u pechod. Rhaid cyflwyno'r anifail o flaen y Tabernacl.

15. Yno bydd arweinwyr y bobl yn gosod eu dwylo ar ben y tarw o flaen yr ARGLWYDD. Wedyn bydd y tarw yn cael ei ladd o flaen yr ARGLWYDD.

16. Wedyn bydd rhaid i'r archoffeiriad gymryd peth o waed y tarw i mewn i'r Tabernacl.

17. Bydd yn rhoi ei fys yn y gwaed ac yn taenellu peth ohono saith gwaith i gyfeiriad y llen.

18. Wedyn bydd yn rhoi peth o'r gwaed ar gyrn allor yr arogldarth sydd o flaen yr ARGLWYDD yn y Tabernacl. Yna bydd yn mynd â gweddill y gwaed a'i dywallt wrth droed yr allor i losgi offrymau tu allan i'r fynedfa i'r Tabernacl.

19. Bydd yr archoffeiriad wedyn yn cymryd brasder yr anifail i gyd a'i losgi ar yr allor.

Lefiticus 4