3. “Os byddwch chi'n ufudd a ffyddlon, a gwneud beth dw i'n ddweud,
4. bydda i'n anfon glaw ar yr amser iawn, er mwyn i gnydau dyfu ar y tir, a ffrwythau ar y coed.
5. Byddwch yn cael cnydau gwych, a llwythi o rawnwin. Bydd gynnoch chi fwy na digon i'w fwyta, a cewch fyw yn saff yn y wlad.
6. Bydda i'n rhoi heddwch a llonydd i chi. Byddwch yn gallu gorwedd i gysgu heb fod ofn. Bydda i'n cael gwared â'r anifeiliaid peryglus sy'n y wlad, a fydd neb yn ymosod ar y wlad.
7. Byddwch chi'n concro eich gelynion. Byddwch yn eu lladd nhw gyda'r cleddyf.
8. Bydd pump ohonoch chi yn curo cant ohonyn nhw, a chant yn curo deg mil. Byddwch yn eu lladd nhw gyda'r cleddyf.
9. Bydda i'n eich helpu chi. Byddwch chi'n cael lot fawr o ddisgynyddion. Bydda i'n cadw'r ymrwymiad wnes i gyda chi.
10. Fydd gynnoch chi ddim digon o le i gadw eich cnydau i gyd. Bydd rhaid i chi daflu peth o gnwd y flwyddyn cynt i ffwrdd.
11. Bydda i yn dod i fyw yn eich canol chi. Fydda i ddim yn eich ffieiddio chi.
12. Bydda i'n byw yn eich plith chi. Fi fydd eich Duw chi, a chi fydd fy mhobl i.
13. Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi. Fi wnaeth eich achub chi o'r Aifft, er mwyn i chi beidio bod yn gaethweision iddyn nhw. Dyma fi'n torri'r iau ar eich cefnau chi, i chi allu sefyll yn syth a cherdded yn rhydd.