Lefiticus 24:18-21 beibl.net 2015 (BNET)

18. Os ydy rhywun yn lladd anifail, rhaid iddo dalu drwy roi anifail tebyg yn ei le i'r perchennog.

19. Os ydy rhywun wedi anafu person arall, rhaid i'r gosb gyfateb i'r drosedd –

20. anaf am anaf, llygad am lygad, dant am ddant – beth bynnag mae e wedi ei wneud i'r person arall, dyna sydd i gael ei wneud iddo fe.

21. Os ydy rhywun yn lladd anifail, rhaid iddo wneud iawn am y peth. Ond os ydy rhywun yn llofruddio rhywun arall, rhaid iddo farw.

Lefiticus 24