Ond dw i wedi dweud wrthoch chi: Dw i wedi addo rhoi eu tir nhw i chi. Mae'n dir ffrwythlon – tir lle mae llaeth a mêl yn llifo. Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi. Dw i wedi eich dewis chi i fod yn wahanol i'r gwledydd eraill.