4. “Pan dych chi'n cyflwyno offrwm o fara wedi ei bobi mewn popty pridd, defnyddiwch y blawd gwenith gorau. Dylai'r blawd gael ei gymysgu gydag olew olewydd i wneud bara heb furum ynddo neu fisgedi tenau wedi eu brwsio gyda'r olew.
5. “Os ydy'r offrwm yn cael ei grasu ar radell, rhaid defnyddio'r blawd gwenith gorau wedi ei gymysgu gydag olew olewydd a dim burum.
6. Wedyn ei dorri'n ddarnau a thywallt mwy o olew arno. Mae hwn hefyd yn offrwm o rawn.
7. “Os ydy'r offrwm yn cael ei baratoi mewn padell rhaid defnyddio'r blawd gwenith gorau wedi ei goginio mewn olew olewydd.
8. Gallwch ddod ag offrwm grawn i'r ARGLWYDD os ydy e wedi ei baratoi gyda'r cynhwysion yma. Rhowch e i'r offeiriad, a bydd e'n mynd ag e at yr allor.
9. Bydd yr offeiriad yn cymryd peth ohono i'w losgi yn ernes ar yr allor – yn rhodd sy'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD.