4. yn lle mynd â'r anifail at y fynedfa i'r Tabernacl i'w gyflwyno'n offrwm i'r ARGLWYDD, bydd y person hwnnw yn euog o dywallt gwaed. Mae e wedi tywallt gwaed, a bydd e'n cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw.
5. Pwrpas y rheol yma ydy gwneud i bobl Israel ddod a'u haberthau i'r ARGLWYDD, at yr offeiriad o flaen y fynedfa i'r Tabernacl, yn lle eu haberthu allan yn y wlad. Maen nhw i'w cyflwyno iddo yn offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD.
6. Bydd yr offeiriad yn sblasio'r gwaed o gwmpas yr allor wrth y fynedfa i'r Tabernacl, ac yn llosgi'r brasder fel offrwm sy'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD.
7. Dŷn nhw ddim i aberthu i'r gafr-ddemoniaid o hyn ymlaen. Maen nhw'n ymddwyn fel puteiniaid wrth wneud y fath beth. Fydd y rheol yma byth yn newid.
8. “Atgoffa nhw: Does neb o bobl Israel nag unrhyw un arall sy'n byw gyda nhw i gyflwyno offrwm i'w losgi neu offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD,
9. oni bai ei fod yn dod â'r offrwm hwnnw at y fynedfa i Babell Presenoldeb Duw. Bydd unrhyw un sy'n gwneud yn wahanol yn cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw.
10. “Bydda i yn troi yn erbyn unrhyw un sy'n bwyta cig sydd â'r gwaed yn dal ynddo – un o bobl Israel neu unrhyw un arall sy'n byw gyda nhw. Bydd y person hwnnw yn cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw.
11. Mae bywyd yr anifail yn y gwaed. Dw i wedi ei roi i'w aberthu ar yr allor yn eich lle chi. Y bywyd yn y gwaed sy'n gwneud pethau'n iawn rhyngoch chi â Duw.
12. Dyna pam dw i wedi dweud wrth bobl Israel fod neb ohonyn nhw, gan gynnwys mewnfudwyr o'r tu allan, i fwyta cig sydd â'r gwaed yn dal ynddo.
13. “Os ydy unrhyw un o bobl Israel, neu unrhyw un arall sy'n byw gyda nhw, yn dal anifail neu aderyn sy'n iawn i'w fwyta, rhaid gadael i'r gwaed redeg allan ohono, ac wedyn gorchuddio'r gwaed hwnnw gyda pridd.