3. Gall yr aflendid fod yn ddiferiad cyson, neu ryw rwystr sy'n ei gwneud yn anodd iddo biso.
4. Bydd ei wely yn aflan, ac unrhyw ddodrefnyn mae'n eistedd arno hefyd.
5-7. Os ydy unrhyw un yn cyffwrdd y dyn neu ei wely, neu'n eistedd ar ddodrefnyn mae e wedi eistedd arno, bydd rhaid i'r person hwnnw olchi ei ddillad ac ymolchi mewn dŵr. Ond bydd e'n dal yn aflan am weddill y dydd.
8. “Os ydy'r dyn sydd â'r afiechyd arno yn poeri ar rywun, rhaid i'r person hwnnw olchi ei ddillad ac ymolchi hefyd. Ond bydd e'n dal yn aflan am weddill y dydd.
9. Mae cyfrwy neu unrhyw beth arall mae'r dyn sydd â'r afiechyd arno wedi eistedd arno wrth deithio yn aflan.