25. Mae'r oen i gael ei ladd fel offrwm i gyfaddef bai. Mae'r offeiriad i gymryd peth o waed yr offrwm a'i roi ar waelod clust dde'r person sy'n cael ei lanhau, a hefyd ar fawd ei law dde a bawd ei droed dde.
26. Wedyn mae'r offeiriad i dywallt peth o'r olew olewydd i gledr ei law chwith.
27. Yna gyda bys ei law dde mae i daenellu peth o'r olew sydd yn ei law chwith saith gwaith o flaen yr ARGLWYDD.
28. Wedyn mae i gymryd peth o'r olew sydd yn ei law a'i roi ar waelod clust dde'r person sy'n cael ei lanhau, a hefyd ar fawd ei law dde a bawd ei droed dde. Mae'r olew i gael ei roi ar ben y gwaed gafodd ei roi arnyn nhw.
29. Wedyn mae i roi gweddill yr olew sydd yn ei law ar ben y person sy'n cael ei lanhau, i wneud pethau'n iawn rhyngddo รข Duw.