Lefiticus 13:34-47-49 beibl.net 2015 (BNET)

34. Os fydd e heb ledu erbyn hynny, ac yn dal i edrych ddim dyfnach na'r croen, bydd yr offeiriad yn datgan fod y person hwnnw yn lân. Rhaid iddo olchi ei ddillad, a bydd yn lân.

35. Ond os ydy'r drwg yn lledu ar ôl i'r offeiriad ddatgan ei fod yn lân

36. rhaid i'r offeiriad ei archwilio eto. Os ydy'r drwg wedi lledu, does dim rhaid edrych am flew melyn, mae e'n aflan.

37. Ond os ydy'r offeiriad yn meddwl ei fod heb ledu, ac os oes blew du wedi tyfu ynddo, mae wedi gwella. Mae'r person yn lân, a rhaid i'r offeiriad ddatgan ei fod yn lân.

38. “Os oes gan ddyn neu ddynes smotiau wedi troi'n llidiog ar y croen, smotiau gwyn,

39. rhaid i offeiriad ei archwilio. Os ydy'r smotiau yn lliw gwelw dim ond rash ydy e. Mae'r person yn lân.

40-41. “Os ydy dyn yn colli ei wallt o dop ei ben neu ar ei dalcen, dim ond moelni ydy e. Mae e'n lân.

42. Ond os oes smotyn wedi troi'n goch neu'n wyn ar y darn moel mae'n glefyd heintus sy'n lledu.

43. Rhaid i'r offeiriad ei archwilio. Os ydy'r chwydd ar ei ben yn goch a gwyn, ac yn edrych fel clefyd heintus ar y corff,

44. rhaid i'r offeiriad ddatgan fod y dyn yn aflan. Mae ganddo glefyd heintus ar ei ben.

45. “Rhaid i unrhyw un sydd â clefyd heintus ar y croen rwygo ei ddillad. Rhaid iddo adael i'w wallt hongian yn flêr, cuddio hanner isaf ei wyneb, a gweiddi ‘Dw i'n aflan! Dw i'n aflan!’

46. Bydd yn aflan tra mae'r afiechyd arno, a rhaid iddo fyw ar wahân i bawb, y tu allan i'r gwersyll.

47-49. “Os oes llwydni gwyrdd neu goch wedi ymddangos ar unrhyw ddilledyn (lliain neu wlân), neu ar unrhyw beth wedi ei wneud o ledr, rhaid ei ddangos i'r offeiriad.

Lefiticus 13