15. Bydd offeiriad yn mynd â'r aderyn at yr allor bres. Yno bydd yn troi'r gwddf i dorri pen yr aderyn i ffwrdd, ac yn llosgi'r pen. Wedyn bydd yn gwasgu gwaed yr aderyn ar un ochr i'r allor.
16. Bydd yr offeiriad wedyn yn tynnu allan grombil yr aderyn a'i gynnwys, a'u taflu ar y twr lludw ar ochr ddwyreiniol yr allor.
17. Ac wedyn gafael yn adenydd yr aderyn, a dechrau ei rwygo ond peidio ei dorri'n ddau. Wedyn llosgi'r cwbl ohono yn y tân ar yr allor. Mae'n offrwm i'w losgi'n llwyr, ac yn arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD.