Josua 24:12-19 beibl.net 2015 (BNET)

12. Dyma fi'n achosi panig llwyr, a gyrru dau frenin yr Amoriaid allan o'ch blaen chi. Fi wnaeth ennill y frwydr i chi, nid eich arfau rhyfel chi.

13. Fi wnaeth roi'r tir i chi. Wnaethoch chi ddim gweithio amdano, a wnaethoch chi ddim adeiladu'r trefi. Dych chi'n bwyta ffrwyth gwinllannoedd a choed olewydd wnaethoch chi mo'i plannu.

14. “Felly byddwch yn ufudd i'r ARGLWYDD, a'i addoli o ddifrif. Taflwch i ffwrdd y duwiau hynny roedd eich hynafiaid yn eu haddoli yr ochr arall i'r Afon Ewffrates, a duwiau'r Aifft. Addolwch yr ARGLWYDD.

15. Os nad ydych chi eisiau addoli'r ARGLWYDD, penderfynwch heddiw pwy dych chi am ei addoli – y duwiau roedd eich hynafiaid yn eu haddoli yr ochr arall i'r Ewffrates, neu dduwiau'r Amoriaid dych chi'n byw yn eu tir nhw. Ond dw i a'm teulu yn mynd i addoli'r ARGLWYDD!”

16. Dyma'r bobl yn ymateb, “Fydden ni ddim yn meiddio troi cefn ar yr ARGLWYDD i addoli duwiau eraill!

17. Yr ARGLWYDD ein Duw wnaeth ein hachub ni a'n hynafiaid o fod yn gaethweision yn yr Aifft, a gwneud gwyrthiau rhyfeddol o flaen ein llygaid. Fe wnaeth ein cadw ni'n saff ar y daith, wrth i ni basio trwy dir gwahanol bobl.

18. Yr ARGLWYDD wnaeth yrru'r bobloedd i gyd allan o'n blaenau ni, gan gynnwys yr Amoriaid oedd yn byw yn y wlad yma. Felly dŷn ni hefyd am addoli'r ARGLWYDD. Ein Duw ni ydy e.”

19. Yna dyma Josua yn rhybuddio'r bobl, “Wnewch chi ddim dal ati i addoli'r ARGLWYDD. Mae e'n Dduw sanctaidd. Mae e'n Dduw eiddigeddus. Fydd e ddim yn maddau i chi am wrthryfela a pechu yn ei erbyn.

Josua 24