6. “Felly byddwch yn ddewr. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud popeth sydd wedi ei ysgrifennu yn sgrôl cyfraith Moses. Peidiwch crwydro oddi wrth hynny o gwbl.
7. A peidiwch cael dim i'w wneud â'r bobloedd sydd ar ôl gyda chi. Peidiwch galw ar eu duwiau nhw na tyngu llw i'r duwiau hynny. Peidiwch addoli nhw na gweddïo arnyn nhw.
8. Arhoswch yn ffyddlon i'r ARGLWYDD eich Duw, fel dych chi wedi gwneud hyd heddiw.