3. Felly, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud, dyma bobl Israel yn rhoi trefi gyda tir pori o'u cwmpas nhw, i lwyth Lefi:
4. Y teuluoedd oedd yn ddisgynyddion i Cohath gafodd y rhai cyntaf. Cafodd y Lefiaid oedd yn ddisgynyddion Aaron yr offeiriad un deg tair o drefi o diriogaeth llwythau Jwda, Simeon a Benjamin.
5. A dyma'r gweddill o ddisgynyddion Cohath yn cael deg tref o diriogaeth llwythau Effraim, Dan a hanner llwyth Manasse.
6. Cafodd disgynyddion Gershon un deg tair o drefi o diriogaeth llwythau Issachar, Asher, Nafftali, a hanner arall llwyth Manasse yn Bashan.
7. Cafodd y teuluoedd oedd yn ddisgynyddion i Merari un deg dwy o drefi o diriogaeth Reuben, Gad a Sabulon.
8. Dyma'r trefi, gyda'u tir pori, wnaeth pobl Israel eu rhoi i lwyth Lefi, fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses:
9. O diriogaeth llwythau Jwda a Simeon,
10. y trefi gafodd eu rhoi i deuluoedd Cohath, oedd yn ddisgynyddion i Aaron yr offeiriad – nhw gafodd y rhai cyntaf:
11. Ciriath-arba, sef Hebron, ym mryniau Jwda. (Arba oedd hynafiad yr Anaciaid.)
12. Ond roedd y tir agored a'r pentrefi o'i chwmpas eisoes wedi cael eu rhoi i Caleb fab Jeffwnne.
13. Felly i ddisgynyddion Aaron yr offeiriad dyma nhw'n rhoi Hebron (oedd yn dref lloches i rywun oedd wedi lladd person arall), Libna,
14. Iattir, Eshtemoa,