Joel 2:19-24 beibl.net 2015 (BNET)

19. Dyma fe'n dweud wrth ei bobl:“Edrychwch! Dw i'n mynd i'ch bendithio chi unwaith eto!Dw i'n mynd i roi cnydau da i chi,a digonedd o sudd grawnwin ac olew olewydd.Bydd gynnoch chi fwy na digon!Fyddwch chi ddim yn destun sborti'r gwledydd o'ch cwmpas chi.

20. Bydda i'n gyrru'r un ddaeth o'r gogledd i ffwrdd,ac yn ei wthio i dir sych a diffaith.Bydd yr hanner blaen yn cael eu gyrru i'r Môr Marw yn y dwyrain,a'r hanner ôl yn cael eu gyrru i Fôr y Canoldir yn y gorllewin.Yno y byddan nhw'n pydru,a bydd eu drewdod yn codi.”Ydy, mae e'n gwneud pethau mor wych!

21. Ti ddaear, paid bod ag ofn!Gelli ddathlu a bod yn llawen,am fod yr ARGLWYDD yn gwneud pethau mor wych!

22. Anifeiliaid gwylltion, peidiwch bod ag ofn!Mae glaswellt yn tyfu eto ar y tir pori,ac mae ffrwythau'n tyfu ar y coed.Mae'r coed ffigys a'r gwinwydd yn llawn ffrwyth.

23. Dathlwch chithau, bobl Seion!Mwynhewch beth mae Duw wedi ei wneud!Mae wedi rhoi'r glaw cynnar i chi ar yr adeg iawn –rhoi'r glaw cynnar yn yr hydref,a'r glaw diweddar yn y gwanwyn, fel o'r blaen.

24. “Bydd y llawr dyrnu yn orlawn o ŷd,a'r cafnau yn gorlifo o sudd grawnwin ac olew olewydd.

Joel 2