Job 6:1-18 beibl.net 2015 (BNET)

1. A dyma Job yn ateb:

2. “Petai fy rhwystredigaeth yn cael ei bwyso,a'm helyntion yn cael eu rhoi mewn clorian,

3. bydden nhw'n drymach na holl dywod y môr!Dim syndod fy mod i wedi siarad yn fyrbwyll!

4. Mae saethau'r Duw Hollalluog yn fy nghorff,ac mae fy ysbryd wedi sugno eu gwenwyn.Mae'r dychryn mae Duw yn ei achosifel rhes o filwyr yn ymosod arna i.

5. Ydy asyn gwyllt yn nadu pan mae ganddo laswellt?Ydy ychen yn brefu pan mae ganddo borfa?

6. Ydy bwyd di-flas yn cael ei fwyta heb halen?Oes blas ar y gwynwy?

7. Dw i'n gwrthod eu cyffwrdd nhw;maen nhw'n gwneud i mi fod eisiau chwydu.

8. O na fyddwn i'n cael fy nymuniad,a bod Duw yn rhoi i mi beth dw i eisiau.

9. O na fyddai Duw yn fodlon fy lladd fel pryf,trwy godi ei law a'm taro i lawr!

10. Faint bynnag o boen fyddai'n rhaid i mi ei ddiodde,byddai'n gysur i mify mod heb wrthod geiriau'r Un Sanctaidd.

11. Does gen i mo'r cryfder i ddal ati;beth ydy'r pwynt o aros yn fyw?

12. Oes gen i gryfder fel y graig?Oes gen i gnawd fel pres?

13. Y gwir ydy, does gen i ddim nerth o gwbl!Alla i wneud dim i helpu fy hunan.

14. Dylai rhywun sy'n anobeithio gael ffrindiau sy'n ffyddlon,hyd yn oed os ydy e'n troi ei gefn ar yr Un sy'n rheoli popeth;

15. Ond alla i ddim dibynnu o gwbl arnoch chi, frodyr!Dych chi fel sychnant lle roedd dŵr yn gorlifo ar un adeg.

16. Fel ffrwd sy'n dywyll o dan rewac wedi ei chuddio o dan eira;

17. ond cyn gynted ag y mae'n meirioli mae'n sychu– yn y gwres tanbaid mae hi'n diflannu.

18. Mae carafanau camelod yn gadael eu llwybr,ac yn troi am y tir anial, ond mae'r ffrwd wedi mynd.

Job 6