Job 5:8-15 beibl.net 2015 (BNET)

8. Petawn i'n ti, byddwn i'n troi at Dduw,ac yn gosod fy achos o'i flaen.

9. Mae e'n gwneud pethau mawr, tu hwnt i'n deall ni,cymaint o bethau rhyfeddol, ni ellir eu cyfri!

10. Mae e'n anfon glaw i'r ddaear,ac yn dyfrio'r caeau.

11. Mae e'n codi'r rhai sy'n isel,ac yn gwneud y rhai sy'n galaru yn ddiogel.

12. Mae e'n drysu cynlluniau'r cyfrwys,i'w hatal rhag llwyddo.

13. Mae'n gwneud i glyfrwch pobl eu baglu nhw;mae cynlluniau'r cyfrwys yn mynd o chwith.

14. Maen nhw'n cael eu hunain mewn tywyllwch yng ngolau dydd,ac yn ymbalfalu ganol dydd fel petai'n nos!

15. Ond mae e'n achub y tlawd rhag eu geiriau creulon,a'r anghenus o afael y rhai cryf.

Job 5