Job 5:14-24 beibl.net 2015 (BNET)

14. Maen nhw'n cael eu hunain mewn tywyllwch yng ngolau dydd,ac yn ymbalfalu ganol dydd fel petai'n nos!

15. Ond mae e'n achub y tlawd rhag eu geiriau creulon,a'r anghenus o afael y rhai cryf.

16. Felly mae gobaith i'r tlawd,ac mae anghyfiawnder yn gorfod tewi!

17. Mae'r rhai mae Duw'n eu ceryddu wedi eu bendithio'n fawr;felly paid gwrthod disgyblaeth y Duw sy'n rheoli popeth!

18. Mae e yn anafu, ond hefyd yn rhwymo'r anaf;Mae'n dolurio, ond mae ei ddwylo hefyd yn iacháu.

19. Bydd yn dy achub rhag un trychineb ar ôl y llall;chei di ddim niwed byth.

20. Mewn newyn bydd yn dy ryddhau o afael marwolaeth,ac mewn rhyfel, o afael y cleddyf.

21. Byddi'n cael dy amddiffyn rhag y tafod maleisus;a fyddi di ddim yn ofni dinistr pan ddaw yn agos.

22. Byddi'n gwawdio dinistr a newyn,a fydd gen ti ddim ofn anifeiliaid gwylltion.

23. Bydd cerrig yn cytuno i gadw draw o dy dir,a fydd anifeiliaid gwylltion ddim yn ymosod arnat ti.

24. Byddi'n gwybod fod dy gartref yn ddiogel,ac wrth archwilio dy anifeiliaid, fydd dim un ar goll.

Job 5