Job 41:14-22 beibl.net 2015 (BNET)

14. Pwy sy'n gallu gwthio ei geg ar agor?Mae'r dannedd sydd o'i chwmpas yn frawychus.

15. Mae ei gefn fel rhesi o darianau,wedi eu cloi i'w gilydd gan sĂȘl.

16. Mae un yn cyffwrdd y llall;maen nhw'n hollol dynn yn erbyn ei gilydd.

17. Maen nhw wedi glynu wrth ei gilydd,a does dim modd eu gwahanu nhw.

18. Mae'n fflachio mellt wrth disian.Mae ei lygaid fel pelydrau'r wawr.

19. Mae fflamau yn llifo o'i geg,a gwreichion yn tasgu ohoni.

20. Mae mwg yn dod allan o'i ffroenaufel crochan berw yn stemio.

21. Mae ei anadl yn cynnau marwor;ac mae fflamau'n dod allan o'i geg.

22. Mae ei wddf mor gryf,a nerth yn llamu allan o'i flaen.

Job 41