Job 37:3-20 beibl.net 2015 (BNET)

3. Mae ei fellt yn fflachio drwy'r awyr –ac yn mynd i ben draw'r byd.

4. Yna wedyn, mae'n rhuo eto,a'i lais cryf yn taranu;mae'r mellt wedi hen ddiflannu pan glywir ei lais.

5. Mae sŵn llais Duw'n taranu yn rhyfeddol!Ac mae'n gwneud pethau gwyrthiol, tu hwnt i'n deall ni.

6. Mae'n dweud wrth yr eira, ‘Disgyn ar y ddaear!’neu wrth y glaw trwm, ‘Arllwys i lawr!’

7. Mae'n stopio pawb rhag gweithio,mae pobl yn gorfod sefyll yn segur.

8. Mae anifeiliaid yn mynd i gysgodi,ac i guddio yn eu gwâl.

9. Mae'r corwynt yn codi o'r de,ac oerni o wyntoedd y gogledd.

10. Anadl Duw sy'n dod â rhew,ac mae'r llynnoedd yn rhewi'n galed.

11. Mae'n llenwi'r cymylau trwchus â gwlybaniaethac yn anfon mellt ar wasgar o'r cymylau.

12. Mae'n gwneud i'r cymylau droi a throelli,ac yn gwneud beth mae Duw'n ei orchymyndros wyneb y ddaear i gyd.

13. Mae'n gwneud hyn naill ai i gosbi'r tir,neu i ddangos ei gariad ffyddlon.

14. Gwranda ar hyn, Job;Aros i ystyried y pethau rhyfeddol mae Duw'n eu gwneud.

15. Wyt ti'n deall sut mae Duw'n trefnu'r cwbl,ac yn gwneud i'r mellt fflachio o'r cymylau?

16. Wyt ti'n deall sut mae'r cymylau'n aros yn yr awyr? –gwaith rhyfeddol Duw, sy'n deall popeth yn berffaith.

17. Ti, sy'n chwysu yn dy ddilladpan mae'n glòs ac yn boeth dan wynt y de.

18. Alli di helpu Duw i ledu'r awyr,sy'n galed fel drych metel?

19. Dywed wrthon ni beth i'w ddweud wrtho!Dŷn ni ddim yn gwybod, mae hi'n dywyll arnon ni.

20. Fyddwn i ddim yn meiddio gofyn am gael siarad!Ydy dyn meidrol yn gofyn am gael ei lyncu ganddo?

Job 37