Job 36:10-19 beibl.net 2015 (BNET)

10. Mae e'n gwneud iddyn nhw wrando drwy eu disgyblu,a dweud wrthyn nhw am droi cefn ar eu drygioni.

11. Os gwnân nhw wrando a bod yn ufudd iddo,byddan nhw'n llwyddo am weddill eu bywydau,ac yn cael blynyddoedd o hapusrwydd.

12. Ond os na fyddan nhw'n gwrando,byddan nhw'n croesi afon marwolaeth,ac yn darfod heb ddeall dim.

13. Mae pobl annuwiol yn dal dig;dŷn nhw ddim yn gweiddi am help pan mae Duw'n eu disgyblu.

14. Maen nhw'n marw'n ifanc,ar ôl treulio'u bywydau gyda phuteinwyr.

15. Ond mae Duw'n defnyddio dioddefaint i achub pobl,ac yn defnyddio poen i'w cael nhw i wrando.

16. Y gwir ydy, mae am dy ddenu di oddi wrth ddibyn gofid,o'r gornel gyfyng i le agored;at fwrdd yn llawn o fwyd blasus.

17. Ond rwyt ti'n wynebu barn Duw ar bobl ddrwg,a does dim dianc rhag ei farn gyfiawn.

18. Gwylia rhag i ti gael dy hudo gan gyfoeth,ac i faint y breib dy arwain ar gyfeiliorn.

19. Fyddai dy holl gyfoeth o unrhyw help yn dy helbul?Na fyddai, na dy holl ddylanwad chwaith!

Job 36