Job 35:11-15 beibl.net 2015 (BNET)

11. Ble mae'r Duw sy'n dysgu mwy i ni na'r anifeiliaid,ac sy'n ein gwneud ni'n fwy doeth na'r adar?’

12. Ydyn, mae'r bobl yn gweiddi, ond dydy e ddim yn ateb,am eu bod nhw'n bobl ddrwg a balch.

13. Dŷn nhw ddim o ddifrif – a dydy Duw ddim yn gwrando;dydy'r Un sy'n rheoli popeth yn cymryd dim sylw.

14. Felly, pam gwrando arnat ti, sy'n cwyno nad wyt yn ei weld,fod dy achos o'i flaen, a dy fod yn aros am ymateb?

15. A hyd yn oed yn honni nad ydy e'n cosbi yn ei ddig,ac nad ydy e'n poeni dim am bechod!

Job 35