1. Yna dwedodd Elihw:
2. “Wyt ti'n meddwl ei bod hi'n iawni ti ddweud, ‘Fi sy'n iawn, nid Duw’?
3. A dweud wrtho, ‘Pa fantais ydy e i ti?’a ‘Beth ydw i'n ennill o beidio pechu?’
4. Gad i mi dy ateb di –ti, a dy ffrindiau gyda ti.
5. Edrych i fyny i'r awyr, ac ystyria;Edrych ar y cymylau ymhell uwch dy ben.
6. Os wyt ti'n pechu, sut mae hynny'n effeithio ar Dduw?Os wyt ti'n troseddu dro ar ôl tro,beth wyt ti'n ei wneud iddo fe?