Job 32:11-19 beibl.net 2015 (BNET)

11. Dw i wedi bod yn disgwyl i chi orffen siarad,ac yn gwrando'n ofalus ar eich dadleuon chi,wrth i chi drafod y pethau hyn.

12. Ond mae'n gwbl amlwg i mifod dim un ohonoch chi'n gallu ateb Job,a gwrthbrofi'r hyn mae wedi ei ddweud.

13. A peidiwch dweud, ‘Y peth doeth i'w wneud ydy hyn –Gadael i Dduw ei geryddu, nid dyn!’

14. Dydy Job ddim wedi dadlau gyda fi eto,a dw i ddim yn mynd i'w ateb gyda'ch dadleuon chi.

15. Mae'r tri yma mewn sioc, heb ateb bellach;does ganddyn nhw ddim byd ar ôl i'w ddweud.

16. Oes rhaid i mi ddal i ddisgwyl, a nhw'n dawel?Maen nhw wedi stopio dadlau, a ddim yn ateb.

17. Mae fy nhro i wedi dod i ddweud fy mhwt;cyfle i mi ddweud be dw i'n feddwl.

18. Mae gen i gymaint i'w ddweud,alla i ddim peidio dweud rhywbeth.

19. Dw i'n teimlo fel potel o win sydd angen ei hagor;fel poteli crwyn newydd sydd ar fin byrstio.

Job 32