5. Dynion wedi eu gyrru allan o gymdeithas,a pobl yn gweiddi arnyn nhw fel lladron.
6. Maen nhw'n byw ar waelod ceunentydd,mewn tyllau yn y ddaear ac ogofâu.
7. Maen nhw'n brefu fel anifeiliaid yng nghanol y chwyn,ac yn swatio gyda'i gilydd dan y llwyni.
8. Pobl ddwl a da i ddim,wedi eu gyrru i ffwrdd o gymdeithas.
9. Ond bellach dw i'n gocyn hitio iddyn nhw;ac yn ddim byd ond testun sbort.
10. Maen nhw'n fy ffieiddio i, ac yn cadw draw oddi wrtho i;ac yn poeri'n fy wyneb heb feddwl ddwywaith.
11. Am fod Duw wedi datod llinyn fy mwa a'm poenydio i,maen nhw'n ymosod arna i yn ddi-stop.
12. Fel gang o lanciau'n codi twrw ar un ochr,i'm bwrw oddi ar fy nhraed;maen nhw'n codi rampiau i warchae a dinistrio.
13. Maen nhw'n sefyll ar fy llwybr i'm rhwystro,ac yn llwyddo i'm llorio,heb angen unrhyw help.