Job 20:11-21 beibl.net 2015 (BNET)

11. Yn ifanc, a'i esgyrn yn llawn egni,bydd yn gorwedd yn y llwch heb ddim.

12. Er bod drygioni'n blasu'n felys iddo,a'i fod yn ei gadw o'r golwg dan ei dafod,

13. i gadw'r blas yn ei geg,a cheisio ei rwystro rhag darfod;

14. bydd yn suro yn ei stumog,ac fel gwenwyn gwiber yn ei fol.

15. Bydd yn chwydu'r holl gyfoeth a lyncodd;bydd Duw yn gwneud iddo gyfogi.

16. Roedd wedi sugno gwenwyn y wiber;ac mae neidr arall yn ei frathu a'i ladd.

17. Fydd e ddim yn cael mwynhau'r nentydd,yr afonydd a'r ffrydiau diddiwedd o fêl a caws colfran.

18. Fydd e ddim yn gallu cadw'r holl elw a lyncodd;fydd e ddim yn cael mwynhau ffrwyth ei fasnachu.

19. Pam? Am ei fod wedi sathru'r tlodion a'u gadael i ddioddef,ac wedi dwyn tai wnaeth e ddim eu hadeiladu.

20. Ond dydy e byth yn cael ei fodloni,a dydy ei chwant am fwy byth yn ei adael.

21. Does dim byd ar ôl iddo ei lowcio,felly fydd ei lwyddiant ddim yn gallu para.

Job 20