2. Dw i'n gwybod cystal â chi;dw i ddim gwaeth na chi!
3. Ond dw i eisiau siarad â'r Duw sy'n rheoli popeth;dw i am ddadlau fy achos gyda Duw.
4. Dych chi'n palu celwyddau i guddio'r gwir!Cwacs! Dyna beth ydych chi.
5. O na fyddech chi'n cau eich cegau!Dyna fyddai'r peth callaf i chi ei wneud.
6. Gwrandwch ar beth sydd gen i i'w ddweud;rhowch gyfle i mi ddadlau fy achos.
7. Ydych chi'n dweud y pethau annheg yma ar ran Duw?Ydych chi'n dweud celwydd er ei fwyn e?
8. Ydych chi am adael i Dduw ddweud rhywbeth?Neu oes angen i chi ei amddiffyn e?