Job 13:10-23 beibl.net 2015 (BNET)

10. Bydd e'n siŵr o'ch ceryddu chiam ddangos ffafr annheg ar y slei.

11. Bydd ei ysblander yn codi arswyd arnoch chi,a bydd ei ofn yn cydio ynoch.

12. Geiriau gwag ydy'ch dywediadau slic chi;atebion disylwedd, yn frau fel clai.

13. Byddwch ddistaw, i mi gael cyfle i siarad.Beth bynnag fydd yn digwydd i mi,

14. dw i ddim am ollwng gafael!Dw i'n fodlon mentro fy mywyd!

15. Falle y bydd e'n fy lladd i; dw i heb obaith!Ond dw i'n mynd i amddiffyn fy hun o'i flaen e.

16. Yn wir, gallai hyn droi i fod yn achubiaeth i mi –fyddai'r annuwiol byth yn meiddio sefyll o'i flaen.

17. Gwrandwch yn ofalus arna i;clywch beth sydd gen i i'w ddweud.

18. Cewch weld, dw i wedi paratoi fy amddiffyniad,a dw i'n gwybod mai fi sy'n iawn.

19. Petai rhywun yn gallu profi'r achos yn fy erbynbyddwn i'n tewi wedyn a disgwyl marw.

20. Ond gwna ddau beth i mi, o Dduw,fel bod dim rhaid i mi guddio oddi wrthot ti:

21. Tynn dy law yn ôl,a stopia godi dychryn arna i.

22. Yna galw fi i gyfri, a bydda i'n ymateb;neu gad i mi siarad gyntaf, i ti fy ateb i.

23. Sawl gwaith dw i wedi gwneud camgymeriad a phechu?Dangos i mi'r pechod a'r gwrthryfel yn dy erbyn di.

Job 13