Job 10:16-21 beibl.net 2015 (BNET)

16. Os coda i fy mhen, rwyt yn fy hela fel llew,i ddangos dy hun yn rhyfeddol – a hynny ar fy nhraul i!

17. Ti'n galw tystion newydd yn fy erbyn,ac yn troi'n fwy a mwy dig gyda mi;dod â byddin newydd yn fy erbyn o hyd.

18. Felly pam wnest ti adael i mi ddod allan o'r groth?Pam wnes i ddim marw bryd hynny, cyn i neb fy ngweld i? –

19. Byddai'n braf petawn i erioed wedi bodoli.Neu wedi cael fy nghario o'r groth i'r bedd!

20. Mae fy nyddiau i mor brin, felly stopia!Gad lonydd i mi, i mi gael ychydig o gysur!

21. Cyn i mi fynd – heb fyth ddod yn ôl –i wlad y twyllwch dudew,

Job 10