Jeremeia 5:4-14 beibl.net 2015 (BNET)

4. Wedyn dyma fi'n meddwl, “Pobl dlawd gyffredin ydy'r rhain.Maen nhw wedi ymddwyn yn ddwl;dŷn nhw ddim yn gwybod beth mae'r ARGLWYDD eisiau,a beth mae Duw yn ei ddisgwyl ganddyn nhw.

5. Gwna i fynd i siarad gyda'r arweinwyr.Byddan nhw'n gwybod beth mae'r ARGLWYDD eisiau,a beth mae Duw yn ei ddisgwyl ganddyn nhw.”Ond roedden nhw hefyd fel ychen wedi torri'r iauyn gwrthod gadael i Dduw eu harwain nhw.

6. Felly, bydd y gelyn yn dod i ymosod fel llew o'r goedwig.Bydd yn neidio arnyn nhw fel blaidd o'r anialwch.Bydd fel llewpard yn stelcian tu allan i'w trefi,a bydd unrhyw un sy'n mentro allan yn cael ei rwygo'n ddarnau!Maen nhw wedi gwrthryfelaac wedi troi cefn ar Dduw mor aml.

7. “Jerwsalem – sut alla i faddau i ti am hyn?Mae dy bobl wedi troi cefn arna i.Maen nhw wedi cymryd llw i ‛dduwiau‛sydd ddim yn bod!Er fy mod i wedi rhoi popeth oedd ei angen iddyn nhwdyma nhw'n ymddwyn fel gwraig sy'n anffyddlon i'w gŵr.Maen nhw'n heidio i dai puteiniaid,

8. fel meirch cryfion yn awchu am gaseg;pob un yn gweryru am wraig ei gymydog.

9. Ddylwn i ddim eu cosbi nhw am hyn?” meddai'r ARGLWYDD.“Ddylwn i ddim dial ar wlad fel yma?”

10. “Ewch i lawr y rhesi o goed gwinwydd, a difetha,ond peidiwch â'i dinistrio nhw'n llwyr.Torrwch y canghennau sy'n blaguro i ffwrdd,achos dŷn nhw ddim yn perthyn i'r ARGLWYDD.

11. Mae pobl Israel a Jwda wedi bod yn anffyddlon i mi.”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

12. “Ydyn, maen nhw wedi gwrthod credu'r ARGLWYDDa dweud pethau fel, ‘Dydy e'n neb!Does dim dinistr i ddod go iawn.Welwn ni ddim rhyfel na newyn.

13. Mae'r proffwydi'n malu awyr!Dydy Duw ddim wedi rhoi neges iddyn nhw!Gadewch i'r hyn maen nhw'n ddweudddigwydd iddyn nhw eu hunain!’”

14. Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Duw holl-bwerus, yn ei ddweud:“Am eu bod nhw'n dweud hyn,dw i'n mynd i roi neges i ti fydd fel fflam dânyn eu llosgi nhw fel petaen nhw'n goed tân.”

Jeremeia 5