18. “Ond hyd yn oed bryd hynny fydda i ddim yn eich dinistrio chi'n llwyr,” meddai'r ARGLWYDD.
19. “A Jeremeia, pan fydd y bobl yn gofyn, ‘Pam mae'r ARGLWYDD ein Duw wedi gwneud y pethau yma i ni?’, byddi di'n ateb, ‘Am eich bod wedi ei wrthod e, a gwasanaethu duwiau estron yn eich gwlad eich hunain, byddwch chi'n gwasanaethu pobl estron mewn gwlad ddieithr.’”
20. “Dwedwch fel hyn wrth ddisgynyddion Jacob,a cyhoeddwch y peth drwy Jwda:
21. ‘Gwrandwch, chi bobl ddwl sy'n deall dim –chi sydd â llygaid, ond yn gweld dim,chi sydd â chlustiau, ond yn clywed dim:
22. Oes gynnoch chi ddim parch ata i?’ meddai'r ARGLWYDD.‘Ddylech chi ddim gwingo mewn ofn o'm blaen i?Fi roddodd dywod ar y traethfel ffin nad ydy'r môr i'w chroesi.Er bod y tonnau'n hyrddio, fyddan nhw ddim yn llwyddo;er eu bod nhw'n rhuo, ân nhw ddim heibio.
23. Ond mae'r bobl yma mor benstiff, ac yn tynnu'n groes;maen nhw wedi troi cefn a mynd eu ffordd eu hunain.