10. Cytunodd pawb, yr arweinwyr a'r bobl i gyd, ac ymrwymo i ollwng eu caethweision yn rhydd – y dynion a'r merched oedd wedi bod yn gweithio iddyn nhw. Ar y dechrau dyma nhw'n gwneud beth roedden nhw wedi ei addo.
11. Ond ar ôl hynny dyma nhw'n newid eu meddyliau, a cymryd y dynion a'r merched yn ôl, a'u gorfodi i weithio fel caethweision eto.
12. Dyna pryd rhoddodd yr ARGLWYDD y neges yma i Jeremeia:
13. “Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Pan ddes i â'ch hynafiaid chi allan o'r Aifft, a'u rhyddhau nhw o fod yn gaethweision, gwnes i gytundeb gyda nhw:
14. “Bob saith mlynedd rhaid i chi ollwng yn rhydd eich cydwladwyr Hebreig sydd wedi gwerthu eu hunain i chi ac wedi'ch gwasanaethu chi am chwe mlynedd.” Ond wnaeth eich hynafiaid ddim gwrando na chymryd unrhyw sylw ohono i.
15. Ond yna'n ddiweddar dyma chi'n newid eich ffyrdd a gwneud beth roeddwn i eisiau. Dyma chi'n gadael i'ch cydwladwyr fynd yn rhydd, ac mewn seremoni yn y deml ymrwymo i gadw at hynny.