24. “Mae'n siŵr dy fod ti wedi clywed beth mae pobl yn ei ddweud – ‘Mae'r ARGLWYDD wedi gwrthod y ddau deulu wnaeth e ddewis!’ Does ganddyn nhw ddim parch at fy mhobl i. Dŷn nhw ddim yn eu hystyried nhw'n genedl ddim mwy.
25. Ond dw i, yr ARGLWYDD, yn addo hyn: Dw i wedi gosod trefn i reoli dydd a nos, ac wedi gosod deddfau i'r awyr a'r ddaear. Dydy'r pethau yna byth yn mynd i gael eu newid.
26. A'r un modd dw i ddim yn mynd i wrthod disgynyddion Jacob. Bydd un o ddisgynyddion Dafydd yn teyrnasu ar ddisgynyddion Abraham, Isaac a Jacob. Byddan nhw'n cael popeth maen nhw wedi ei golli yn ôl. Dw i'n mynd i ddangos trugaredd atyn nhw.”