Jeremeia 31:31-34 beibl.net 2015 (BNET)

31. “Mae'r amser yn dod,” meddai'r ARGLWYDD, “pan fydda i'n gwneud ymrwymiad newydd gyda phobl Israel a Jwda.

32. Fydd hwn ddim yr un fath â'r un wnes i gyda'u hynafiaid (pan afaelais yn eu llaw a'u harwain allan o'r Aifft). Roedden nhw wedi torri amodau'r ymrwymiad hwnnw, er fy mod i wedi bod yn ŵr ffyddlon iddyn nhw.

33. Dyma'r ymrwymiad fydda i'n ei wneud gyda phobl Israel bryd hynny,” meddai'r ARGLWYDD: “Bydda i'n rhoi fy nghyfraith yn eu calonnau nhw, ac yn ei hysgrifennu ar eu meddyliau nhw. Fi fydd eu Duw nhw, a nhw fydd fy mhobl i.

34. Fyddan nhw ddim yn gorfod dysgu pobl eraill, a dweud wrth ei gilydd, ‘Rhaid i ti ddod i nabod yr ARGLWYDD’. Byddan nhw i gyd yn fy nabod i, y bobl gyffredin a'r arweinwyr, am fy mod i'n maddau iddyn nhw am y pethau wnaethon nhw o'i le, ac yn anghofio eu pechodau am byth.”

Jeremeia 31