Jeremeia 31:24-33 beibl.net 2015 (BNET)

24. Bydd pobl yn byw gyda'i gilydd yn nhrefi Jwda unwaith eto.Bydd yno ffermwyr a bugeiliaid crwydrol yn gofalu am eu praidd.

25. Bydda i'n rhoi diod i'r rhai sydd wedi blino,ac yn adfywio'r rhai sy'n teimlo'n llesg.”

26. Yn sydyn dyma fi'n deffro ac yn edrych o'm cwmpas. Roeddwn i wedi bod yn cysgu'n braf!

27. “Mae'r amser yn dod,” meddai'r ARGLWYDD, “pan fydd poblogaeth fawr a digonedd o anifeiliaid yn Israel a Jwda unwaith eto.

28. Yn union fel roeddwn i'n gwylio i wneud yn siŵr eu bod nhw'n cael eu tynnu o'r gwraidd a'u chwalu, eu dinistrio a'u bwrw i lawr, yn y dyfodol bydda i'n gwylio i wneud yn siŵr eu bod nhw'n cael eu hadeiladu a'u plannu'n ddiogel,” meddai'r ARGLWYDD.

29. “Bryd hynny fydd pobl ddim yn dweud pethau fel:‘Mae'r rhieni wedi bwyta grawnwin surionond y plant sy'n diodde'r blas drwg.’

30. Bydd pawb yn marw am ei bechod ei hun. Pwy bynnag sy'n bwyta'r grawnwin surion fydd yn diodde'r blas drwg.”

31. “Mae'r amser yn dod,” meddai'r ARGLWYDD, “pan fydda i'n gwneud ymrwymiad newydd gyda phobl Israel a Jwda.

32. Fydd hwn ddim yr un fath â'r un wnes i gyda'u hynafiaid (pan afaelais yn eu llaw a'u harwain allan o'r Aifft). Roedden nhw wedi torri amodau'r ymrwymiad hwnnw, er fy mod i wedi bod yn ŵr ffyddlon iddyn nhw.

33. Dyma'r ymrwymiad fydda i'n ei wneud gyda phobl Israel bryd hynny,” meddai'r ARGLWYDD: “Bydda i'n rhoi fy nghyfraith yn eu calonnau nhw, ac yn ei hysgrifennu ar eu meddyliau nhw. Fi fydd eu Duw nhw, a nhw fydd fy mhobl i.

Jeremeia 31