Jeremeia 31:13-17 beibl.net 2015 (BNET)

13. Yna bydd y merched ifanc yn dawnsio'n llawen,a'r bechgyn ifanc a'r dynion hŷn yn dathlu gyda'i gilydd.Bydda i'n troi eu galar yn llawenydd.Bydda i'n eu cysuro nhw, a rhoi hapusrwydd yn lle tristwch.

14. Bydd gan yr offeiriaid fwy na digon o aberthau,a bydd fy mhobl yn cael digonedd o bethau da,—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

15. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Mae cri i'w chlywed yn Rama,sŵn wylo chwerw a galaru mawr –Rachel yn crïo am ei phlant.Mae'n gwrthod cael ei chysuro,am eu bod nhw wedi mynd.”

16. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Stopia grïo. Paid colli mwy o ddagrau.Dw i'n mynd i roi gwobr i ti am dy waith.Bydd dy blant yn dod yn ôl o wlad y gelyn.

17. Mae gobaith i'r dyfodol,” meddai'r ARGLWYDD“Bydd dy blant yn dod yn ôl i'w gwlad eu hunain.

Jeremeia 31