1. Dyma lythyr Jeremeia at yr arweinwyr oedd ar ôl, yr offeiriaid a'r proffwydi, a phawb arall o Jerwsalem oedd wedi eu cymryd yn gaeth i Babilon gan y brenin Nebwchadnesar.
2. (Roedd hyn ar ôl i'r brenin Jehoiachin a'r fam frenhines, swyddogion y palas brenhinol, arweinwyr Jwda a Jerwsalem, y seiri coed a'r gweithwyr metel i gyd gael eu cymryd i ffwrdd yn gaeth o Jerwsalem.)
3. Elasa fab Shaffan a Gemareia fab Chilceia aeth a'r llythyr yno. Roedden nhw wedi eu hanfon i Babilon at Nebwchadnesar gan Sedeceia, brenin Jwda. Dyma'r llythyr:
4. Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud wrth y bobl mae wedi eu hanfon yn gaeth o Jerwsalem i Babilon:
5. “Adeiladwch dai a setlo i lawr. Plannwch erddi a bwyta'r hyn sy'n tyfu ynddyn nhw.
6. Priodwch a chael plant. Dewiswch wragedd i'ch meibion a gadael i'ch merched briodi, er mwyn iddyn nhw hefyd gael plant. Dw i eisiau i'ch niferoedd chi dyfu, yn lle lleihau.
7. Gweithiwch dros heddwch a llwyddiant y ddinas ble dw i wedi mynd â chi'n gaeth. Gweddïwch ar yr ARGLWYDD drosti. Ei llwyddiant hi fydd eich llwyddiant chi.”
8. Achos dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: “Peidiwch gadael i'r proffwydi sydd gyda chi, a'r rhai hynny sy'n dweud ffortiwn, eich twyllo chi. Peidiwch cymryd sylw o'u breuddwydion.