1. Yr un flwyddyn, ar ddechrau cyfnod Sedeceia fel brenin Jwda (sef pumed mis y bedwaredd flwyddyn o'i deyrnasiad), dyma Hananeia fab Asswr, y proffwyd o Gibeon, yn dweud wrth Jeremeia yn y deml o flaen yr offeiriaid a'r bobl i gyd:
2. “Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i dorri iau brenin Babilon!
3. Mewn llai na dwy flynedd dw i'n mynd i ddod â phopeth wnaeth Nebwchadnesar brenin Babilon ei gymryd oddi yma yn ôl.
4. Dw i hefyd yn mynd i ddod â Jehoiachin fab Jehoiacim, brenin Jwda, yn ôl, a phawb arall gafodd eu cymryd yn gaeth i Babilon.’ Mae'r ARGLWYDDyn dweud, ‘Dw i'n mynd i dorri iau brenin Babilon.’”
5. A dyma'r proffwyd Jeremeia yn ateb y proffwyd Hananeia, o flaen yr offeiriaid a phawb arall oedd yn y deml.
6. “Amen! Boed i'r ARGLWYDD wneud hynny! Boed i'r ARGLWYDD ddod â dy broffwydoliaeth di yn wir! O na fyddai'n gwneud hynny, a dod â holl offer y deml yn ôl o Babilon, a'r bobl gafodd eu cymryd yno'n gaeth hefyd!
7. Ond na, gwrando di nawr ar beth sydd gen i i'w ddweud wrthot ti a'r bobl yma i gyd.
8. Ers amser maith mae'r proffwydi ddaeth o dy flaen di a fi wedi proffwydo fod rhyfel, trychinebau a heintiau yn mynd i daro llawer o wledydd a theyrnasoedd mawr.