Jeremeia 27:9-16 beibl.net 2015 (BNET)

9. Felly peidiwch gwrando ar eich proffwydi, na'r bobl hynny sy'n dweud ffortiwn drwy ddehongli breuddwydion, cysylltu gyda'r meirw neu ddewino – y rhai sy'n dweud fydd dim rhaid i chi wasanaethu brenin Babilon.

10. Maen nhw'n dweud celwydd. Os gwrandwch chi arnyn nhw byddwch chi'n cael eich cymryd i ffwrdd yn bell o'ch gwlad. Bydda i'n eich gyrru chi i ffwrdd, a byddwch yn marw yno.

11. Ond bydd y wlad sy'n rhoi ei gwar dan iau brenin Babilon, a'i wasanaethu e, yn cael llonydd. Byddan nhw'n cael dal ati i drin eu tir a byw yn eu gwlad eu hunain. Fi, yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.”’”

12. Dwedais yr un peth wrth Sedeceia, brenin Jwda. “Rhaid i chi roi eich gwar dan iau brenin Babilon, a'i wasanaethu e a'i bobl. Os gwnewch chi hynny cewch fyw.

13. Pam ddylet ti â'th bobl gael eich lladd gan y cleddyf, neu drwy newyn a haint? Yn ôl yr ARGLWYDD dyna fydd yn digwydd i unrhyw wlad sy'n gwrthod plygu i frenin Babilon.

14. Peidiwch gwrando ar y proffwydi sy'n dweud wrthoch na fydd raid i chi wasanaethu brenin Babilon. Maen nhw'n dweud celwydd!

15. ‘Wnes i ddim eu hanfon nhw,’ meddai'r ARGLWYDD. ‘Mae'n nhw'n honni eu bod nhw'n siarad drosta i, ond proffwydo celwydd maen nhw. Os gwrandwch chi arnyn nhw bydda i'n eich gyrru chi i ffwrdd, a byddwch chi a'r proffwydi sy'n dweud celwydd yn marw yn y gaethglud.’”

16. Wedyn dyma fi'n dweud wrth yr offeiriaid a'r bobl i gyd, “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Peidiwch gwrando ar y proffwydi sy'n dweud wrthoch chi y bydd dodrefn a llestri gwerthfawr y deml yn dod yn ôl o Babilon.’ Maen nhw'n dweud celwydd.

Jeremeia 27