Jeremeia 25:23-29 beibl.net 2015 (BNET)

23. Pobl Dedan, Tema, Bws, a'r bobl sy'n byw ar ymylon yr anialwch.

24. Brenhinoedd Arabia a brenhinoedd y gwahanol lwythau nomadig yn yr anialwch.

25. Brenhinoedd Simri, Elam a Media i gyd.

26. Brenhinoedd y gogledd i gyd, pell ac agos, a phob un gwlad sydd ar wyneb y ddaear.Ac yn olaf bydd rhaid i frenin Babilon ei hun yfed o'r gwpan.

27. “Dywed di wrthyn nhw wedyn fod yr ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, yn dweud: ‘Yfwch nes byddwch chi'n feddw ac yn chwydu. Yfwch nes byddwch yn syrthio ac yn methu codi ar eich traed eto, o achos y rhyfel dw i'n ei anfon i'ch cosbi chi.’

28. “Os byddan nhw'n gwrthod cymryd y gwpan gen ti, ac yfed ohoni, dywed wrthyn nhw, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud: “Does gynnoch chi ddim dewis. Bydd rhaid i chi yfed!

29. Gwyliwch chi, dw i wedi dechrau cosbi Jerwsalem, fy ninas i fy hun. Os felly, ydych chi'n mynd i osgoi cael eich cosbi? Na! Dw i'n mynd i ddod â rhyfel ar bawb sy'n byw ar y ddaear.” Fi, yr ARGLWYDD holl-bwerus, sy'n dweud hyn.’

Jeremeia 25