Jeremeia 22:25-29 beibl.net 2015 (BNET)

25. Bydda i'n dy roi di yn nwylo'r rhai sydd eisiau dy ladd di, y rhai hynny rwyt ti eu hofni nhw, sef Nebwchadnesar, brenin Babilon a'i fyddin.

26. A bydda i'n dy daflu di a dy fam i wlad ddieithr, a dyna ble byddwch chi'n marw.

27. Gewch chi byth ddod yn ôl yma, er eich holl hiraeth.”

28. Ai jwg diwerth wedi ei dorri ydy'r dyn Jehoiachin?(fel potyn pridd does neb ei eisiau).Pam mae e a'i blant wedi eu taflu i ffwrdd?(wedi eu taflu i wlad ddieithr).

29. Wlad, wlad, wlad,gwrando ar neges yr ARGLWYDD.

Jeremeia 22