Jeremeia 11:9-16 beibl.net 2015 (BNET)

9. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i: “Mae pobl Jwda a'r rhai sy'n byw yn Jerwsalem wedi cynllwynio yn fy erbyn i.

10. Maen nhw wedi mynd yn ôl a gwneud yr union bethau drwg roedd eu hynafiaid yn eu gwneud. Maen nhw wedi gwrthod gwrando arna i, ac wedi addoli duwiau eraill. Mae gwlad Israel a gwlad Jwda wedi torri amodau'r ymrwymiad wnes i gyda'i hynafiaid nhw.

11. Felly, dyma dw i, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i ddod â dinistr arnyn nhw, a fyddan nhw ddim yn gallu dianc. A phan fyddan nhw'n gweiddi arna i am help, wna i ddim gwrando arnyn nhw.

12. Wedyn bydd pobl trefi Jwda a phobl Jerwsalem yn gweiddi am help gan y duwiau maen nhw wedi bod yn llosgi arogldarth iddyn nhw. Ond fydd y duwiau hynny yn sicr ddim yn gallu eu hachub nhw o'u trafferthion!

13. A hynny er bod gen ti, Jwda, gymaint o dduwiau ag sydd gen ti o drefi! Ac er bod gan bobl Jerwsalem gymaint o allorau ag sydd o strydoedd yn y ddinas, i losgi arogldarth i'r duw ffiaidd yna, Baal!’

14. “A ti Jeremeia, paid gweddïo dros y bobl yma. Paid galw arna i na gweddïo drostyn nhw. Paid pledio arna i i'w helpu nhw. Wna i ddim gwrando arnyn nhw pan fyddan nhw'n gweiddi am help o ganol eu trafferthion.

15. Pa hawl sydd gan fy mhobl annwyl i ddod i'm temlar ôl gwneud cymaint o bethau erchyll?Ydy aberthu cig anifeiliaid yn mynd i gael gwared â'r drygioni?Fyddwch chi'n gallu bod yn hapus wedyn?

16. Roeddwn i, yr ARGLWYDD, wedi dy alw diyn goeden olewydd ddeiliog gyda ffrwyth hyfryd arni.Ond mae storm fawr ar y ffordd:dw i'n mynd i dy roi di ar dân,a byddi'n llosgi yn y fflamau gwyllt.Fydd dy ganghennau di yn dda i ddim wedyn.

Jeremeia 11