Jeremeia 11:20-23 beibl.net 2015 (BNET)

20. “O ARGLWYDD holl-bwerus, rwyt ti'n barnu'n deg!Ti'n gweld beth mae pobl yn ei feddwl a'i fwriadu.Tala nôl iddyn nhw am beth maen nhw'n ei wneud.Dw i'n dy drystio di i ddelio gyda'r sefyllfa.”

21. Felly, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud am y dynion o Anathoth sydd eisiau fy lladd i. (Roedden nhw wedi dweud y bydden nhw'n fy lladd i os nad oeddwn i'n stopio proffwydo fel roedd yr ARGLWYDD yn dweud wrtho i).

22. Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud amdanyn nhw: “Dw i'n mynd i'w cosbi nhw! Bydd eu bechgyn ifanc yn cael eu lladd yn y rhyfel, a bydd eu plant yn marw o newyn.

23. Fydd yna neb ar ôl yn fyw! Mae'r amser iddyn nhw gael eu cosbi wedi dod.”

Jeremeia 11