Ioan 9:11-17 beibl.net 2015 (BNET)

11. “Dyma'r dyn maen nhw'n ei alw'n Iesu yn gwneud mwd,” meddai, “ac yn ei rwbio ar fy llygaid. Yna dwedodd wrtho i am fynd i Siloam i ymolchi. A dyna wnes i. Ar ôl i mi ymolchi roeddwn i'n gallu gweld!”

12. “Ble mae e?” medden nhw.“Wn i ddim,” meddai.

13. Dyma nhw'n mynd â'r dyn oedd wedi bod yn ddall at y Phariseaid.

14. Roedd hi'n ddydd Saboth Iddewig pan oedd Iesu wedi gwneud y mwd i iacháu'r dyn.

15. Felly dyma'r Phariseaid hefyd yn dechrau holi'r dyn sut oedd e'n gallu gweld.Atebodd y dyn, “Rhoddodd fwd ar fy llygaid, es i ymolchi, a dw i'n gweld.”

16. Meddai rhai o'r Phariseaid, “All e ddim bod yn negesydd Duw, am ei fod e ddim yn cadw rheolau'r Saboth.”Ond roedd eraill yn dweud, “Sut mae rhywun sy'n bechadur cyffredin yn gallu gwneud y fath arwyddion gwyrthiol?” Felly roedden nhw'n anghytuno â'i gilydd.

17. Yn y diwedd dyma nhw'n troi at y dyn dall eto, “Beth sydd gen ti i'w ddweud amdano? Dy lygaid di agorodd e.”Atebodd y dyn, “Mae'n rhaid ei fod yn broffwyd.”

Ioan 9