45. “Ond peidiwch tybio mai fi fydd yn eich cyhuddo chi o flaen y Tad. Moses ydy'r un sy'n eich cyhuddo chi. Ie, Moses, yr un dych chi wedi bod yn pwyso arno.
46. Tasech chi wir yn credu Moses, byddech chi'n fy nghredu i, achos amdana i ysgrifennodd Moses!
47. Ond gan eich bod chi ddim yn credu beth ysgrifennodd e, sut ydych chi'n gallu credu beth dw i'n ei ddweud?”