1. Dyma Iesu'n ymddangos i'w ddisgyblion eto wrth Lyn Tiberias.
2. Dyma beth ddigwyddodd: Roedd criw ohonyn nhw gyda'i gilydd – Simon Pedr, Tomos (oedd yn cael ei alw ‛Yr Efaill‛), Nathanael o Cana Galilea, meibion Sebedeus, a dau ddisgybl arall.
3. “Dw i'n mynd i bysgota,” meddai Simon Pedr wrth y lleill. A dyma nhw'n ateb, “Dŷn ni am ddod hefyd.” Felly dyma nhw'n mynd allan mewn cwch, ond wnaethon nhw ddal dim drwy'r nos.
4. Pan oedd hi yn dechrau gwawrio dyma Iesu'n sefyll ar lan y llyn, ond doedd y disgyblion ddim yn gwybod mai Iesu oedd yno.